Skip to content ↓

Is my child making progress?

Gweld eich plentyn yn gwneud cynnydd yw’r nod pennaf inni fel staff yr ysgol. Pin ai yn gynnydd o ran eu datblygiad personol ac emosiynol neu, neu gynnydd mewn meysydd academaidd, dyma yw bara menyn ein gwaith fel ysgol.

Mae partneriaeth agos rhwng y cartref a’r ysgol yn hanfodol er mwyn cefnogi eich plentyn i wneud cynnydd.

Asesiad ar fynediad

Ar ddechrau plentyn newydd yn yr ysgol mae staff yn dod i’w hadnabod ac yn rhannu gwybodaeth gyda chi fel rhieni ynghylch sut mae eich plentyn wedi ymgartrefu yn yr ysgol. Gwneir hyn wedi 6 wythnos gyntaf y plentyn yn yr ysgol.

Polisi drws agored

Pwysleisiwn os ydych eisiau trafod cynnydd eich plentyn, eich bod yn cysylltu gyda’r athro/athrawes dosbarth i drefnu sgwrs ar unrhyw adeg e.e. os oes consyrn gyda chi, trefnwch sgwrs ar adeg cyfleus i bawb. Medrwch drefnu sgwrs trwy ddanfon neges class dojo neu e-bost i athrawon dosbarth. Croesawa athrawon wybodaeth gan rieni ynghylch unrhyw ddigwyddiadau sy’n debygol o effeithio eich plentyn yn yr ysgol e.e. profedigaeth ayyb.

Os ydych yn meddwl bod gan rich plenty Anghenion Dysgu Ychwnaegol, dewch o hyd i ganllawiau yma:  FFederaliaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn - ALN (llwyncoch.cymru)

Ni ddylai rhieni ddisgwyl i bob profiad dysgu, anghytundeb, siom neu gyflawniad y mae plentyn yn ei brofi yn ystod y diwrnod ysgol gael ei gyfleu. Bydd athrawon yn ymarfer barn broffesiynol fesul achos, ac yn cyfathrebu naill ai ar class dojo, neu os oes angen trafodaeth bellach arnynt, yn bersonol/dros y ffôn.

Gofynnwn yn garedig i ryngweithio gydag athrawon dros class dojo gael ei gyfyngu i faterion a grybwyllir uchod. Mae effeithlonrwydd athrawon yn cael ei bygwth pan fyddant yn derbyn gohebiaeth ddiangen am wybodaeth sydd eisoes wedi’i chynnwys mewn llythyrau e.e. oes ganddyn nhw nofio yfory? Deallwn fod cofio pob dim yn anodd, felly, holwn yn garedig i chi helpu trwy atgoffa eich gilydd fel rhieni am ddigwyddiadau a threfniadau’r ysgol.

 

  Class Dojo

Mae Class Dojo yn ap rhad ac am ddim ar gyfer rhannu gweithgareddau ysgol o ddydd i ddydd, gwaith dosbarth a gwaith cartref. Defnyddiwch hwn i anfon neges uniongyrchol at eich athro gyda chwestiynau a phryderon ymarferol.

Gallwch chi lawrlwytho'r app yma: https://www.classdojo.com

 Ar ôl ei lawrlwytho chwiliwch am ein hysgol, yna eich athro i ofyn am gôd mynediad.

 

Cyfathrebu ffurfiol ar gynnydd rich plentyn

O’ch cyfnod chi yn yr ysgol, efallai y cofiwch ddisgyblion yn derbyn asesiadau a oedd yn rhoi deilliant neu lefel cyrhaeddiad ffit orau iddynt. Nid oes disgwyl bellach i ysgol rhoi asesiadau o’r fath. Mae’r wybodaeth yr ydych yn derbyn llawer mwy holistig, llawer mwy perthnasol i’ch plentyn, a llawer mwy dibynnol ar arsylwadau athrawon.

Mae’n ofynnol i ddisgyblion Blynyddoedd 2-6 cwblhau asesiadau personol mewn 2 agwedd o rifedd, darllen Cymraeg a darllen Saesneg. Rho ganlyniadau rhain syniad bras o gyrhaeddiad plentyn o’i gymharu â phlant eraill o oed a gallu tebyg yng Nghymru. Rhannwn ganfyddiadau rhain gyda rhieni yn nhymor yr Haf dros Hwb.

Yn unol â chanllawiau statudol, darparwn gyfleoedd ffurfiol i rieni dderbyn gwybodaeth am gynnydd eu plentyn. Ymfalchïwn yn ein harfer arloesol o nosweithiau rhieni, lle mae’r plentyn sy’n tywys eu rhieni trwy eu gwaith, gan ddatblygu eu annibynrwydd.

Dyma ein rhaglen flynyddol ar gyfer rhannu gwybodaeth gyda rhieni ynghylch cynnydd eu plentyn:

Tymor yr Hydref

Rhannu gwybodaeth am ddysgu’r tymor ar wefan y dosbarth.

Noson Rhieni – Cyfle i weld gwaith eich plentyn.

Rhennir cyfradd presenoldeb eich plentyn gyda chi.

Cyfarfod 1:1 gyda’r athro a’r rhieni lle osodir targedau ar gyfer y tymor i ddod.

 

Tymor y Gwanwyn

Rhannu gwybodaeth am ddysgu’r tymor ar wefan y dosbarth.

Noson Rhieni –  Eich plentyn yn eich tywys trwy eu gwaith ac yn trafod y targedau y maent wedi gosod ar y cyd gydag athrawon dosbarth.

Rhennir cyfradd presenoldeb gyda chi.

 

Tymor yr Haf

Rhannu gwybodaeth am ddysgu’r tymor ar wefan y dosbarth.

Crynodeb ysgrifenedig ar gynnydd eich plentyn yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mynediad i ganlyniadau asesiadau personol cenedlaethol plant Bl2-6 trwy hwb.

 

Ar ddiwedd pob hanner tymor, rhennir sampl o waith disgyblion ar i adran ‘portfolio’ Class Dojo i gadw cofnod o’u cynnydd dros amser. Cewch chi fel rhieni fynediad i’r portffolio yma. Mae’n gyfle da i chi weld cynnydd eich plentyn, a thrafod hynny gyda nhw.

Dyma'r ffyrdd gorau o gysylltu â’r ysgol am eich plentyn a materion cysylltiedig:

 

Cysylltu gyda'r Uwch Dîm Rheoli

Os hoffech godi unrhyw fater am yr ysgol a’i gweithdrefnau cysylltwch â’r pennaeth ar ein prif e-bost sef prif@penrhyncoch.ceredigion.sch.uk

Ein nod yw ymateb i hyn o fewn 48 awr.

Ar gyfer materion ar lefel uwch e-bostiwch ein cadeirydd llywodraethwyr ar millsr43@penrhyncoch.ceredigion.sch.uk

 

Parch ac Urddas 

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i feithrin awyrgylch barchus, cwrtais a chynhwysol lle gall athrawon a disgyblion ffynnu. Byddwch yn ymwybodol o hyn ym mhob cyfathrebiad â'n tîm. Ni fydd achosion lle na ddangosir urddas a pharch yn cael eu goddef (h.y. trwy gwynion maleisus neu flinderus neu ymddygiad yr ystyrir ei fod yn gyfystyr â bwlio ac aflonyddu).