Skip to content ↓

Urdd

Beth yw'r Urdd?

Mae'r Urdd yn un o fudiadau ieuenctid mwyaf Ewrop, gan dderbyn tua 56,000 o aelodau yn flynyddol. Sefydlwyd yr Urdd i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfleoedd megis clybiau urdd wythnosol, eisteddfodau, cystadlaethau chwaraeon, a chanolfannau preswyl fel Llangrannog. Ceir rhagor o fanylion am waith yr About Us | Urdd Gobaith Cymru. . Mae talu aelodaeth flynyddol i’r urdd yn hanfodol os yw eich plentyn am gynrychioli’r ysgol, a chystadlu yn yr Eisteddfod neu unrhyw gystadlaethau chwaraeon. Yn nodweddiadol, mae cystadlaethau chwaraeon yn agored i ddisgyblion 7-11 oed, gyda blaenoriaeth i'r disgyblion hynaf. Mae Eisteddfod yr Urdd yn cynnig cyfleoedd i gystadlu mewn cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref i holl ddisgyblion yr ysgol. Mae cystadlaethau yn cael eu grwpio yn ôl oedran ar gyfer disgyblion blwyddyn 2 ac iau, disgyblion blwyddyn 3 a 4, a disgyblion blwyddyn 5 a 6.

Yn wythnosol, mae’r ysgol yn cynnig Clwb yr Urdd ar nos Lun.

Trefnir rhaglen o weithgareddau bob tymor sy’n cynnwys:

- celf a chrefft

- chwaraeon

- garddio

- coginio

Er mwyn mynychu’r clwb yn wythnosol, mae angen i ddisgyblion gofrestru fel aelod o’r urdd. Ymuno | Urdd Gobaith Cymru

 

Beth yw eisteddfod?

Cystadleuaeth yw Eisteddfod yn y bôn. Mae’r rhan fwyaf o eisteddfodau yn cynnwys cystadlaethau llwyfan a chystadlaethau cyfansoddi, yn debyg iawn i’n heisteddfod ysgol ni. Mae llawer o drefi a phentrefi ledled Cymru yn cynnal Eisteddfod, a llawer ohonynt yng Ngheredigion. Mae rhestr o'r rhain i'w gweld yma Testunau – CEC (steddfota.cymru) Mae Eisteddfod pentref Penrhyn-coch i'w chynnal ym miss Ebrill. Cefnoga rai eu heisteddfod leol drwy gystadlu, gyda'r rhai sy'n awyddus iawn i deithio ar hyd a lled y wlad yn cystadlu mewn nifer o Eisteddfodau – all fod yn broffidiol os llwyddwch i fachu gwobr ariannol ym mhob un! Yr Eisteddfodau mwyaf enwog yw Eisteddfod Gydwladol Llangollen, a gynhelir ym mis Gorffennaf, yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir ym mis Awst, ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a gynhelir yn ystod Wythnos y Sulgwyn/ hanner tymor Mai. Mae'r rhain i gyd yn ŵyl ddiwylliant wythnos o hyd, gyda llawer o stondinau a gweithgareddau. 

 

Ym mha gystadlaethau y gall fy mhlentyn gystadlu yn yr urdd?

Gweler rhestr testunnau yr urdd yma:  Syllabus | Urdd Gobaith Cymru